
Mae Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang – o gefn gwlad Powys yn y gogledd, i Aberhonddu yn y canol, ac yna i lawr trwy Gwm Tawe i ddinas Abertawe ac arfordir ysblennydd Gŵyr. Mae’n rhan o’r byd sy’n wirioneddol hardd.
Mae gennym 202 o eglwysi, llawer ohonynt mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Mae’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn eu caru, ac mae pererinion a thwristiaid fel ei gilydd yn eu gwerthfawrogi. Er bod yr esgobaeth yn cofleidio ystod o gymunedau gwahanol iawn o fewn 1,316 o filltiroedd sgwâr, rydym yn cael ein huno gan weledigaeth ar gyfer ein dyfodol gyda’n gilydd.
Tulu wedi ein gwreiddio yng Nghrist, yn gweddnewid bywydau trwy Gyd-gyfarfod yn bobl Dduw, Cyd-dyfu’n fwy tebyg i lesu, Cyd-genhadu yn nerth yr Ysbryd.
Mae llawer o drosiadau am sefydliadau, ond rydym ni wedi dewis delwedd Feiblaidd y teulu neu aelwyd Duw. Teulu ydym ni sy’n gweld Duw fel rhiant cariadus i ni. Mae ef yn ein hadnabod ac yn ein caru; ni yw ei blant ac rydym yn rhannu tebygrwydd ac ysbryd teuluol. Rydym yn ein disgrifio ein hunain fel rhai a ‘wreiddiwyd yng Nghrist’ oherwydd ein bod, fel Cristnogion, yn dibynnu ar Iesu am faeth, sefydlogrwydd, hunaniaeth a phwrpas. Ei genhadaeth ef yw ein cenhadaeth ni – datgan y gwirionedd ynghylch teyrnas Dduw.
Ein diben fel eglwys yw gweddnewid bywydau – bywydau unigol, diwylliant yr Esgobaeth, a bywyd ein cymdeithas. Mae’r gweddnewid yn digwydd trwy allu Duw, ond mae ef wedi ein galw i rannu yn ei genhadaeth.
Ein her yw meddwl eto am sut rydym ni’n gwneud ein gwaith – er mwyn i ni fedru datblygu fel Eglwys yn unol â galwad Duw. Er mwyn cyflawni hynny, rydym yn canolbwyntio ar dri maes: ymgynnull yn enw Duw, ymdebygu’n fwy i Iesu, a mynd allan yn nerth yr Ysbryd.
Ar draws yr esgobaeth mae plwyfi, bywoliaethau a deoniaethau yn cwrdd i ystyried galwad Duw ar ein bywydau a sut mae ymgysylltu â chenhadaeth mewn modd creadigol.